RHAN 8ADOLYGIADAU AC APELAU
PENNOD 2ADOLYGIADAU
177Effaith casgliadau adolygiad
(1)
Pan fo ACC yn dyroddi hysbysiad o dan adran 176(5), (6) neu (7) mewn perthynas ag adolygiad—
(a)
mae’r casgliadau yn yr hysbysiad i’w trin fel pe bai’r tribiwnlys wedi dyfarnu apêl yn erbyn y penderfyniad y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef yn y modd a nodir yn y casgliadau, ond
(b)
nid yw’r casgliadau i’w trin fel penderfyniad gan y tribiwnlys at ddibenion adrannau 9 i 13 o Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007 (p. 15) (adolygu penderfyniadau ac apelau yn erbyn penderfyniadau).
(2)
Ond nid yw is-adran (1) yn gymwys os yw’r canlynol yn berthnasol, neu i’r graddau y mae’r canlynol yn berthnasol—
(a)
bod ACC a’r person yn ymrwymo wedi hynny i gytundeb setlo mewn perthynas â’r penderfyniad y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef, neu
(b)
bod y tribiwnlys yn dyfarnu wedi hynny ar apêl yn erbyn y penderfyniad y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef.