(1)Pan fo person yn rhoi hysbysiad am gais i ACC ar ôl y cyfnod perthnasol—
(a)caiff ACC adolygu’r penderfyniad y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef, a
(b)rhaid iddo wneud hynny os yw’n fodlon—
(i)bod gan y person esgus rhesymol dros beidio â’i roi yn ystod y cyfnod perthnasol, a
(ii)ei fod wedi ei roi i ACC wedyn heb oedi afresymol.
(2)Rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad i’r person yn datgan a fydd yn adolygu’r penderfyniad ai peidio.
(3)Pan fo ACC yn dyroddi hysbysiad yn datgan na fydd yn adolygu’r penderfyniad, caiff y person wneud cais i’r tribiwnlys am gyfarwyddyd sy’n ei gwneud yn ofynnol i ACC gynnal yr adolygiad.
(4)Caiff y tribiwnlys roi cyfarwyddyd o’r fath, a rhaid iddo wneud hynny os yw’n fodlon—
(a)bod gan y ceisydd esgus rhesymol dros beidio â rhoi hysbysiad am y cais i ACC yn ystod y cyfnod perthnasol,
(b)ei fod wedi ei roi i ACC wedyn heb oedi afresymol, ac yna
(c)ei fod wedi gwneud cais i’r tribiwnlys heb oedi afresymol.
(5)Yn yr adran hon, mae i “y cyfnod perthnasol” yr un ystyr ag yn adran 174.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 175 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I2A. 175 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(i)