RHAN 8ADOLYGIADAU AC APELAU

PENNOD 2ADOLYGIADAU

175Cais hwyr am adolygiad

(1)

Pan fo person yn rhoi hysbysiad am gais i ACC ar ôl y cyfnod perthnasol—

(a)

caiff ACC adolygu’r penderfyniad y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef, a

(b)

rhaid iddo wneud hynny os yw’n fodlon—

(i)

bod gan y person esgus rhesymol dros beidio â’i roi yn ystod y cyfnod perthnasol, a

(ii)

ei fod wedi ei roi i ACC wedyn heb oedi afresymol.

(2)

Rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad i’r person yn datgan a fydd yn adolygu’r penderfyniad ai peidio.

(3)

Pan fo ACC yn dyroddi hysbysiad yn datgan na fydd yn adolygu’r penderfyniad, caiff y person wneud cais i’r tribiwnlys am gyfarwyddyd sy’n ei gwneud yn ofynnol i ACC gynnal yr adolygiad.

(4)

Caiff y tribiwnlys roi cyfarwyddyd o’r fath, a rhaid iddo wneud hynny os yw’n fodlon—

(a)

bod gan y ceisydd esgus rhesymol dros beidio â rhoi hysbysiad am y cais i ACC yn ystod y cyfnod perthnasol,

(b)

ei fod wedi ei roi i ACC wedyn heb oedi afresymol, ac yna

(c)

ei fod wedi gwneud cais i’r tribiwnlys heb oedi afresymol.

(5)

Yn yr adran hon, mae i “y cyfnod perthnasol” yr un ystyr ag yn adran 174.