RHAN 8ADOLYGIADAU AC APELAU

PENNOD 2ADOLYGIADAU

174Terfyn amser ar gyfer gofyn am adolygiad

(1)

Pan roddir hysbysiad am gais i ACC cyn diwedd y cyfnod perthnasol, rhaid i ACC adolygu’r penderfyniad y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef.

(2)

Yn ddarostyngedig i is-adran (3), y cyfnod perthnasol yw—

(a)

pan fo’r cais yn ymwneud â phenderfyniad i ddiwygio ffurflen dreth y person o dan adran 45 tra bo ymholiad yn mynd rhagddo, y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y mae ACC yn dyroddi hysbysiad cau sy’n hysbysu’r person fod yr ymholiad wedi ei gwblhau;

(b)

pan fo’r cais yn ymwneud â phenderfyniad o unrhyw fath arall, y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y mae ACC yn dyroddi’r hysbysiad sy’n hysbysu’r person am y penderfyniad.

(3)

Pan fo’r person—

(a)

wedi ymrwymo i gytundeb setlo mewn cysylltiad â’r penderfyniad y mae’r cais yn ymwneud ag ef, ond

(b)

wedi rhoi hysbysiad wedi hynny ei fod yn tynnu’n ôl o’r cytundeb o dan adran 184(4),

y cyfnod perthnasol yw’r cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad tynnu’n ôl.