RHAN 8ADOLYGIADAU AC APELAU

PENNOD 2ADOLYGIADAU

173Gofyn am adolygiad

(1)

Rhaid gwneud cais i adolygu penderfyniad apeliadwy drwy roi hysbysiad (“hysbysiad am gais”) i ACC.

(2)

Rhaid i hysbysiad am gais nodi’r sail ar gyfer yr adolygiad.

(3)

Ond ni chaiff person roi hysbysiad am gais os yw is-adran (4), (5) neu (6) yn gymwys.

(4)

Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)

os penderfyniad i ddiwygio ffurflen dreth y person o dan adran 45 tra bo ymholiad yn mynd rhagddo yw’r penderfyniad y mae’r person yn dymuno i ACC ei adolygu, a

(b)

os nad yw’r ymholiad wedi ei gwblhau hyd yma.

(5)

Mae’r is-adran hon yn gymwys pan fo’r person wedi apelio i’r tribiwnlys yn erbyn y penderfyniad ac nad yw’r apêl wedi ei thynnu’n ôl.

(6)

Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)

pan fo’r person wedi ymrwymo i gytundeb setlo mewn perthynas â’r penderfyniad y mae’r person yn dymuno i ACC ei adolygu, a

(b)

pan na fo’r person wedi rhoi hysbysiad tynnu’n ôl o’r cytundeb o dan adran 184(4).

(7)

Nid yw’r adran hon yn rhwystro ymdrin â phenderfyniad apeliadwy yn unol ag adran 184.