RHAN 8ADOLYGIADAU AC APELAU
PENNOD 1RHAGARWEINIOL
Penderfyniadau apeliadwy
172Penderfyniadau apeliadwy
(1)
Caiff person y mae penderfyniad apeliadwy yn gymwys iddo—
(a)
gofyn am adolygiad o’r penderfyniad (yn ddarostyngedig i is-adran (4)), a
(b)
apelio yn erbyn y penderfyniad,
yn unol â’r darpariaethau a ganlyn yn y Rhan hon.
(2)
Mae’r penderfyniadau a ganlyn gan ACC yn benderfyniadau apeliadwy—
(a)
penderfyniad sy’n effeithio ar ba un a yw treth ddatganoledig i’w chodi ar berson;
(b)
penderfyniad sy’n effeithio ar y swm o dreth ddatganoledig sydd i’w godi ar berson;
(c)
penderfyniad sy’n effeithio ar y diwrnod erbyn pryd y mae’n rhaid talu swm o dreth ddatganoledig;
(d)
penderfyniad ynglŷn â chosb sy’n ymwneud â threth ddatganoledig;
(e)
penderfyniad i ddyroddi hysbysiad gwybodaeth neu gynnwys gofyniad penodol mewn hysbysiad o’r fath;
F1(f)
penderfyniad i ddyroddi hysbysiad o dan baragraff 14 o Atodlen 16 i DTTT (adennill rhyddhad grŵp: hysbysiad yn gwneud taliad yn ofynnol gan un arall o gwmnïau’r grŵp neu gyfarwyddwr â rheolaeth);
(g)
penderfyniad i ddyroddi hysbysiad o dan baragraff 9 o Atodlen 17 i’r Ddeddf honno (adennill rhyddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael: hysbysiad yn gwneud taliad yn ofynnol gan un arall o gwmnïau’r grŵp neu gyfarwyddwr â rheolaeth);
F2(h)
penderfyniad sy’n ymwneud â’r dull sydd i’w ddefnyddio gan weithredwr safle tirlenwi awdurdodedig i bennu pwysau deunydd at ddibenion treth gwarediadau tirlenwi;
F3(i)
penderfyniad sy’n ymwneud â chofrestru person at ddibenion treth gwarediadau tirlenwi;
F4(j)
penderfyniad sy’n ymwneud â dynodi man nad yw at ddibenion gwaredu at ddibenion treth gwarediadau tirlenwi;
F5(k)
penderfyniad sy’n ymwneud â dynodi grŵp o gyrff corfforaethol at ddibenion treth gwarediadau tirlenwi;
F6(l)
penderfyniad sy’n ymwneud â chredyd treth mewn cysylltiad â threth gwarediadau tirlenwi.
F7(2A)
Yn is-adran (2), mae i “gweithredwr”, “safle tirlenwi awdurdodedig”, “cofrestru” a “man nad yw at ddibenion gwaredu” yr un ystyr ag a roddir iddynt yn DTGT.
(3)
Ond nid yw’r penderfyniadau a ganlyn yn benderfyniadau apeliadwy—
(a)
penderfyniad i ddyroddi hysbysiad ymholiad o dan adran 43 neu 74;
(b)
penderfyniad i ddyroddi—
(i)
hysbysiad trethdalwr, neu
(ii)
hysbysiad trydydd parti y mae adran 90(3) yn gymwys iddo;
(c)
penderfyniad i gynnwys gofyniad penodol mewn—
(i)
hysbysiad trethdalwr, neu
(ii)
hysbysiad trydydd parti y mae adran 90(3) yn gymwys iddo.
(4)
Pan fo’r tribiwnlys wedi cymeradwyo dyroddi hysbysiad gwybodaeth, ni chaiff person ofyn am adolygiad o benderfyniad ACC i ddyroddi’r hysbysiad.
(5)
Pan ganiateir gofyn am adolygiad, neu wneud apêl, mewn cysylltiad â phenderfyniad i ddyroddi hysbysiad gwybodaeth neu gynnwys gofyniad mewn hysbysiad o’r fath, caniateir gofyn amdano neu ei wneud ar y seiliau a ganlyn yn unig—
(a)
ei bod yn afresymol ei gwneud yn ofynnol i’r person y dyroddwyd yr hysbysiad iddo gydymffurfio â’r hysbysiad neu’r gofyniad;
(b)
bod darpariaeth yn adrannau 97 i 102 yn rhwystro’r hysbysiad rhag ei gwneud yn ofynnol i’r person ddarparu’r wybodaeth neu gyflwyno’r ddogfen;
(c)
yn achos hysbysiad adnabod a ddyroddir o dan adran 92 neu hysbysiad cyswllt dyledwr a ddyroddir o dan adran 93, nad yw amod 4 o’r adran honno wedi ei fodloni.
(6)
Yn achos penderfyniad i ddyroddi hysbysiad gwybodaeth neu gynnwys gofyniad penodol mewn hysbysiad o’r fath, y person y mae’r penderfyniad yn gymwys iddo at ddibenion is-adran (1) yw’r person y dyroddwyd yr hysbysiad iddo.
(7)
Caiff Gweinidogion Cymru wneud y canlynol drwy reoliadau—
(a)
addasu’r adran hon er mwyn—
(i)
ychwanegu penderfyniad at is-adran (2) neu (3);
(ii)
amrywio’r disgrifiad o benderfyniad yn y naill neu’r llall o’r is-adrannau hynny;
(iii)
tynnu ymaith benderfyniad o’r naill neu’r llall o’r is-adrannau hynny;
(b)
diwygio’r Rhan hon er mwyn gwneud darpariaeth ynghylch ar ba seiliau y caniateir gofyn am adolygiad, neu wneud apêl, mewn cysylltiad â phenderfyniad apeliadwy.