170Gorfodi drwy atafaelu nwyddauLL+C
(1)Os nad yw person yn talu swm perthnasol i ACC sy’n daladwy gan y person, caiff ACC ddilyn y weithdrefn yn Atodlen 12 i [F1DTLlG] (atafaelu nwyddau) er mwyn adennill y swm hwnnw.
(2)Yn adran 63(3) o’r Ddeddf honno (asiantau gorfodi), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—
“(ba)a person authorised to use the procedure in Schedule 12 by the Welsh Revenue Authority (or by a person to whom the Welsh Revenue Authority has delegated the function of authorising the use of the procedure);”.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 170(1) wedi eu hamnewid (25.1.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 61; O.S. 2018/34, ergl. 2(b)(iii)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 170 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I2A. 170 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(h)