RHAN 2AWDURDOD CYLLID CYMRU

Gwybodaeth

I1I217Cyfrinachedd gwybodaeth warchodedig am drethdalwr

1

Ni chaiff unigolyn sy’n swyddog perthnasol, neu sydd wedi bod yn swyddog perthnasol, ddatgelu gwybodaeth warchodedig am drethdalwr oni bai bod adran 18 yn caniatáu ei datgelu.

2

Yn yr adran hon ac yn adran 19, ystyr “swyddog perthnasol” yw unigolyn—

a

sy’n aelod o ACC, yn aelod o bwyllgor o ACC, neu’n aelod o is-bwyllgor o bwyllgor o’r fath,

b

sy’n berson y mae ACC wedi dirprwyo unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau iddo, yn aelod o gorff y mae ACC wedi dirprwyo unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau iddo, yn aelod o bwyllgor o gorff o’r fath neu’n aelod o is-bwyllgor o bwyllgor o’r fath, neu’n dal swydd mewn corff o’r fath,

c

sy’n aelod o staff ACC,

d

sy’n aelod o staff person y mae ACC wedi dirprwyo unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau iddo a gyflogir mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o’r swyddogaethau hynny,

e

sy’n berson sy’n darparu gwasanaethau i ACC, neu

f

sy’n berson sy’n darparu gwasanaethau i berson y mae ACC wedi dirprwyo unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau iddo mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o’r swyddogaethau hynny.

3

Yn is-adran (1) ac adran 18, ystyr “gwybodaeth warchodedig am drethdalwr” yw gwybodaeth yn ymwneud â pherson (y “person a effeithir”)—

a

a ddaeth i law ACC neu a ddaeth i law person y dirprwywyd unrhyw un neu ragor o swyddogaethau ACC iddo mewn cysylltiad â’r swyddogaethau hynny, a

b

y gellir adnabod y person a effeithir ohoni (boed oherwydd bod yr wybodaeth yn nodi pwy yw’r person a effeithir neu oherwydd y gellir casglu pwy ydyw ohoni).

4

Ond nid yw gwybodaeth yn “wybodaeth warchodedig am drethdalwr” os yw’n wybodaeth am drefniadau gweinyddol mewnol ACC neu berson y mae ACC wedi dirprwyo unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau iddo (pa un a yw’r wybodaeth yn ymwneud ag aelodau o staff ACC neu staff person o’r fath neu â phersonau eraill).