RHAN 7TALU A GORFODI
Adennill
169Achos yn llys yr ynadon
(1)
Pan fo swm perthnasol yn daladwy gan berson ac nad yw’n fwy na £2,000, mae i’w adennill fel dyled sifil drwy broses ynadol.
(2)
Caniateir cynnwys pob un neu unrhyw un neu ragor o’r symiau sydd i’w hadennill o dan yr adran hon sy’n daladwy gan unrhyw un person o fewn yr un gŵyn, wŷs, neu ddogfen arall y mae’n ofynnol ei gosod gerbron ynad heddwch neu ei dyroddi ganddo.
(3)
Mae pob dogfen o’r fath i’w thrin, mewn cysylltiad â phob swm, fel dogfen ar wahân ac nid yw ei hannilysrwydd mewn cysylltiad ag un swm yn effeithio ar ei dilysrwydd mewn cysylltiad ag unrhyw swm arall.
(4)
O ran swm perthnasol sy’n dreth ddatganoledig neu’n gosb F1neu’n swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth, caniateir dwyn achos o dan yr adran hon o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod yn dilyn y diwrnod yr oedd yn ofynnol talu’r dreth ddatganoledig F2, y gosb neu’r swm arall arno neu’n gynharach.
(5)
O ran swm perthnasol sy’n llog ar dreth ddatganoledig neu ar gosb F3neu swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth, caniateir dwyn achos o dan yr adran hon o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod yn dilyn y diwrnod yr oedd yn ofynnol talu’r dreth ddatganoledig F4, y gosb neu’r swm arall arno neu’n gynharach.
F5(5A)
Pan fo swm perthnasol yn cynnwys swm o dreth trafodiadau tir y mae ACC wedi cytuno y gellir gohirio ei dalu, rhaid anwybyddu unrhyw gyfnod gohirio mewn cysylltiad â’r swm hwnnw (fel y’i pennir o dan Bennod 3 o Ran 6 o DTTT) wrth gyfrifo’r cyfnod o 12 mis y cyfeirir ato yn is-adran (4) neu (5).
(5B)
Pan fo swm perthnasol yn cynnwys swm a gaiff ei drin fel swm gohiriedig yn rhinwedd adran 181G, rhaid anwybyddu unrhyw gyfnod gohirio mewn cysylltiad â’r swm hwnnw (fel y’i pennir o dan yr adran honno) wrth gyfrifo’r cyfnod o 12 mis y cyfeirir ato yn is-adran (4) neu (5).
(6)
Caiff Gweinidogion Cymru gynyddu’r swm a bennir yn is-adran (1) drwy reoliadau.