RHAN 7TALU A GORFODI

Adennill

169Achos yn llys yr ynadon

(1)

Pan fo swm perthnasol yn daladwy gan berson ac nad yw’n fwy na £2,000, mae i’w adennill fel dyled sifil drwy broses ynadol.

(2)

Caniateir cynnwys pob un neu unrhyw un neu ragor o’r symiau sydd i’w hadennill o dan yr adran hon sy’n daladwy gan unrhyw un person o fewn yr un gŵyn, wŷs, neu ddogfen arall y mae’n ofynnol ei gosod gerbron ynad heddwch neu ei dyroddi ganddo.

(3)

Mae pob dogfen o’r fath i’w thrin, mewn cysylltiad â phob swm, fel dogfen ar wahân ac nid yw ei hannilysrwydd mewn cysylltiad ag un swm yn effeithio ar ei dilysrwydd mewn cysylltiad ag unrhyw swm arall.

(4)

O ran swm perthnasol sy’n dreth ddatganoledig neu’n gosb, caniateir dwyn achos o dan yr adran hon o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod yn dilyn y diwrnod yr oedd yn ofynnol talu’r dreth ddatganoledig neu’r gosb arno neu’n gynharach.

(5)

O ran swm perthnasol sy’n llog ar dreth ddatganoledig neu ar gosb, caniateir dwyn achos o dan yr adran hon o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod yn dilyn y diwrnod yr oedd yn ofynnol talu’r dreth ddatganoledig neu’r gosb arno neu’n gynharach.

(6)

Caiff Gweinidogion Cymru gynyddu’r swm a bennir yn is-adran (1) drwy reoliadau.