Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

167Ffioedd taluLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu drwy reoliadau bod rhaid i berson sy’n talu swm perthnasol i ACC gan ddefnyddio dull talu a ragnodir gan y rheoliadau, hefyd dalu ffi a ragnodir gan y rheoliadau neu a bennir yn unol â hwy.

(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth ynghylch pryd a sut y mae’n rhaid talu’r ffi.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 167 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I2A. 167 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/954, ergl. 2