RHAN 6LLOG

PENNOD 2LLOG AR SYMIAU SY’N DALADWY GAN ACC

Llog ad-daliadau

162Llog ad-daliadau: atodol

(1)

Nid yw llog ad-daliadau yn daladwy ar swm sy’n daladwy o ganlyniad i orchymyn neu ddyfarniad llys sydd â phŵer i ganiatáu llog ar y swm.

(2)

Nid yw llog ad-daliadau yn daladwy ar log ad-daliadau.

(3)

Mae’r dyddiad ad-dalu, mewn perthynas â swm y mae adran 161 yn gymwys iddo, yn cynnwys y dyddiad y caiff ei osod yn erbyn swm sy’n ddyledus i ACC.