RHAN 6LLOG
PENNOD 2LLOG AR SYMIAU SY’N DALADWY GAN ACC
Llog ad-daliadau
161Llog ad-daliadau ar symiau sy’n daladwy gan ACC
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys i unrhyw swm perthnasol a dalwyd gan berson i ACC a ad-delir gan ACC i’r person hwnnw neu i berson arall.
(2)
Ystyr “swm perthnasol” yw swm a dalwyd mewn cysylltiad ag unrhyw rwymedigaeth (gan gynnwys unrhyw rwymedigaeth honedig neu rwymedigaeth a ragwelir) i dalu i ACC—
(a)
swm o dreth ddatganoledig, F1...
(b)
swm o gosb sy’n ymwneud â threth ddatganoledig F2, neu
(c)
swm mewn cysylltiad â chredyd treth.
(3)
Os nad ad-delir swm y mae’r adran hon yn gymwys iddo cyn dyddiad dechrau’r llog ad-daliadau, mae’r swm yn dwyn llog (y cyfeirir ato yn y Rhan hon fel “llog ad-daliadau”) ar y gyfradd llog ad-daliadau ar gyfer y cyfnod—
(a)
sy’n dechrau â dyddiad dechrau’r llog ad-daliadau, a
(b)
sy’n dod i ben â’r dyddiad ad-dalu.
(4)
Dyddiad dechrau’r llog ad-daliadau ar gyfer y swm perthnasol yw’r hwyraf o’r canlynol—
(a)
y diwrnod y talwyd y swm perthnasol i ACC, a
(b)
y diwrnod y daeth y swm a grybwyllir yn is-adran F3(2)(a), (b) neu (c), y talwyd y swm perthnasol mewn cysylltiad ag ef, yn daladwy i ACC.
(5)
Mae is-adran (3)(a) yn gymwys hyd yn oed os yw dyddiad dechrau’r llog ad-daliadau yn ddiwrnod nad yw’n ddiwrnod busnes o fewn yr ystyr a roddir i “non-business day” yn adran 92 o Ddeddf Biliau Cyfnewid 1882 (p. 61).
(6)
Yn yr adran hon, mae i “cyfradd llog ad-daliadau” yr ystyr a roddir gan adran 163(2).