RHAN 6LLOG

PENNOD 1LLOG AR SYMIAU SY’N DALADWY I ACC

...

160Dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr: marwolaeth trethdalwr

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)

os yw F1person—

(i)

y mae swm o dreth ddatganoledig i’w godi arno neu gosb sy’n ymwneud â threth ddatganoledig i’w chodi arno, neu

(ii)

y mae’n ofynnol iddo dalu swm mewn cysylltiad â chredyd treth,

yn marw cyn y daw’r swm yn daladwy, a

(b)

os nad yw’r ysgutor neu’r gweinyddwr yn gallu talu’r swm cyn cael profiant neu lythyrau gweinyddu neu ddogfen arall ag iddi effaith gyfatebol o dan gyfraith gwlad neu diriogaeth heblaw Cymru a Lloegr mewn perthynas ag ystad yr ymadawedig.

(2)

Dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr ar gyfer y swm hwnnw yw’r hwyraf o’r canlynol⁠—

(a)

y dyddiad a fyddai wedi bod yn ddyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr oni bai am yr adran hon, a

(b)

y diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â grant profiant neu lythyrau gweinyddu neu ddogfen arall ag iddi effaith gyfatebol o dan gyfraith gwlad neu diriogaeth heblaw Cymru a Lloegr mewn perthynas ag ystad yr ymadawedig.