RHAN 2AWDURDOD CYLLID CYMRU

Gwybodaeth

16Defnydd ACC a’i ddirprwyon o wybodaeth

(1)

O ran gwybodaeth sy’n dod i law—

(a)

ACC, neu

(b)

person y mae ACC wedi dirprwyo unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau iddo,

mewn cysylltiad ag un o swyddogaethau ACC, caniateir ei defnyddio yn unol ag is-adran (2) yn unig.

(2)

Caniateir defnyddio’r wybodaeth—

(a)

gan ACC, neu

(b)

gan unrhyw berson y mae ACC wedi dirprwyo unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau iddo,

mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o swyddogaethau ACC.

(3)

Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i unrhyw un neu ragor o rwymedigaethau rhyngwladol y Deyrnas Unedig sy’n cyfyngu ar y defnydd o wybodaeth neu’n gwahardd ei defnyddio.