RHAN 6LLOG

PENNOD 1LLOG AR SYMIAU SY’N DALADWY I ACC

...

F1158Llog taliadau hwyr: atodol

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion adrannau 157 F2, 157A a 157B.

(2)

Nid yw llog taliadau hwyr yn daladwy ar log taliadau hwyr.

(3)

Caiff dyddiad dechrau llog taliadau hwyr fod yn ddiwrnod nad yw’n ddiwrnod busnes o fewn ystyr adran 92 o Ddeddf Biliau Cyfnewid 1882 (p. 61).

(4)

Mae’r dyddiad talu, mewn perthynas â swm, yn cynnwys y dyddiad y caiff y swm ei osod yn erbyn swm sy’n daladwy gan ACC.

(5)

Mae i “cyfradd llog taliadau hwyr” yr ystyr a roddir gan adran 163(1).