Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

[F1157ALlog taliadau hwyr ar gosbauLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i swm o gosb [F2sy’n ymwneud â threth ddatganoledig].

(2)Os na thelir y swm ar y dyddiad y mae’n ofynnol ei dalu neu cyn hynny, mae’r swm yn dwyn llog (y cyfeirir ato yn y Rhan hon fel “llog taliadau hwyr”) ar y gyfradd llog taliadau hwyr ar gyfer y cyfnod—

(a)sy’n dechrau â’r diwrnod canlynol, a

(b)sy’n dod i ben â’r dyddiad talu.

(3)Ond pan fo adran 160 yn gymwys, dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr yw’r dyddiad a bennir yn yr adran honno.]