RHAN 6LLOG

PENNOD 1LLOG AR SYMIAU SY’N DALADWY I ACC

...

F1157ALlog taliadau hwyr ar gosbau

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys i swm o gosb F2sy’n ymwneud â threth ddatganoledig.

(2)

Os na thelir y swm ar y dyddiad y mae’n ofynnol ei dalu neu cyn hynny, mae’r swm yn dwyn llog (y cyfeirir ato yn y Rhan hon fel “llog taliadau hwyr”) ar y gyfradd llog taliadau hwyr ar gyfer y cyfnod—

(a)

sy’n dechrau â’r diwrnod canlynol, a

(b)

sy’n dod i ben â’r dyddiad talu.

(3)

Ond pan fo adran 160 yn gymwys, dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr yw’r dyddiad a bennir yn yr adran honno.