Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

[F1157Llog taliadau hwyr ar drethi datganoledigLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i swm o dreth ddatganoledig—

(a)sydd wedi ei ddatgan mewn ffurflen dreth fel—

(i)y dreth sydd i’w chodi, neu

(ii)os yw’r ffurflen dreth yn ffurflen dreth bellach a wneir gan y prynwr mewn trafodiad tir, y dreth trafodiadau tir (neu’r dreth trafodiadau tir ychwanegol) sy’n daladwy;

(b)sy’n daladwy—

(i)o ganlyniad i ddiwygiad i ffurflen dreth o dan adran 41, 45 neu 50;

(ii)o ganlyniad i gywiriad i ffurflen dreth o dan adran 42;

(iii)yn unol ag asesiad a wnaed yn ychwanegol at ffurflen dreth o dan adran 54 neu 55, neu

(c)sy’n daladwy yn unol ag—

(i)dyfarniad o dan adran 52, neu

(ii)asesiad o dan adran 54 neu 55,

a wnaed yn lle ffurflen dreth yr oedd yn ofynnol ei dychwelyd.

[F2(1A)Mae’r adran hon hefyd yn gymwys i swm o dreth gwarediadau tirlenwi a godir gan hysbysiad codi treth a ddyroddir o dan adran 49 neu 50 o DTGT.]

(2)Os na chaiff y swm ei dalu cyn dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr, mae’r swm yn dwyn llog (y cyfeirir ato yn y Rhan hon fel “llog taliadau hwyr”) ar y gyfradd llog taliadau hwyr ar gyfer y cyfnod—

(a)sy’n dechrau â dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr, a

(b)sy’n dod i ben â’r dyddiad talu.

(3)Dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr yw—

(a)yn achos swm sydd o fewn is-adran (1)(a) neu (b), y dyddiad ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth;

(b)yn achos swm sydd o fewn is-adran (1)(c), y dyddiad ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth yr oedd yn ofynnol ei dychwelyd;

[F3(c)yn achos swm sydd o fewn is-adran (1A), y dyddiad sy’n union ar ôl diwedd y cyfnod a bennir yn adran 51 o DTGT.]

(4)Ond pan fo adran 160 yn gymwys, dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr yw’r dyddiad a bennir yn yr adran honno.]