RHAN 5COSBAU
PENNOD 7ATODOL
156Pŵer i wneud rheoliadau ynghylch cosbau
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth (neu ddarpariaeth bellach) ynghylch—
(a)
symiau cosbau o dan y Rhan hon;
(b)
y weithdrefn ar gyfer asesu cosbau o dan y Rhan hon.
(2)
Caiff rheoliadau o dan yr adran hon addasu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys y Ddeddf hon).
(3)
Ni chaiff rheoliadau o dan y Ddeddf hon fod yn gymwys—
(a)
i fethiant sy’n dechrau cyn y diwrnod y daw’r rheoliadau i rym, neu
(b)
i anghywirdeb mewn unrhyw wybodaeth neu ddogfen a ddarparwyd i ACC cyn y diwrnod hwnnw.