xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 5LL+CCOSBAU

PENNOD 7LL+CATODOL

156Pŵer i wneud rheoliadau ynghylch cosbauLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth (neu ddarpariaeth bellach) ynghylch—

(a)symiau cosbau o dan y Rhan hon;

(b)y weithdrefn ar gyfer asesu cosbau o dan y Rhan hon.

(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon addasu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys y Ddeddf hon).

(3)Ni chaiff rheoliadau o dan y Ddeddf hon fod yn gymwys—

(a)i fethiant sy’n dechrau cyn y diwrnod y daw’r rheoliadau i rym, neu

(b)i anghywirdeb mewn unrhyw wybodaeth neu ddogfen a ddarparwyd i ACC cyn y diwrnod hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 156 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194

I2A. 156 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3