xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Nid oes rhwymedigaeth i gosb o dan adran 146 neu 147 os yw’r person yn bodloni ACC neu (drwy apêl) y tribiwnlys bod esgus rhesymol am y methiant neu am rwystro ACC.
(2)At ddibenion yr adran hon—
(a)nid yw prinder arian yn esgus rhesymol oni bai y gellir priodoli hynny i ddigwyddiadau sydd y tu hwnt i reolaeth y person;
(b)pan fo’r person yn dibynnu ar berson arall i wneud unrhyw beth, nid yw hynny’n esgus rhesymol oni bai bod y person cyntaf wedi cymryd gofal rhesymol i osgoi’r methiant neu’r rhwystr;
(c)os oedd gan y person esgus rhesymol am y methiant neu’r rhwystr ond bod yr esgus wedi dod i ben, mae’r person i’w drin fel pe bai wedi parhau i fod â’r esgus os caiff y methiant ei gywiro, neu os daw’r rhwystr i ben, heb oedi afresymol ar ôl i’r esgus ddod i ben.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 149 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I2A. 149 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(d)