RHAN 5COSBAU
PENNOD 5COSBAU SY’N YMWNEUD AG YMCHWILIADAU
Cosbau am fethu â chydymffurfio neu am rwystro
146Cosb am fethu â chydymffurfio â hysbysiad gwybodaeth neu am rwystro
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys i berson—
(a)
sy’n methu â chydymffurfio â hysbysiad gwybodaeth,
(b)
sy’n rhwystro ACC yn fwriadol yn ystod ymchwiliad, neu wrth iddo arfer pŵer, a gymeradwywyd gan y tribiwnlys o dan adran 108,
(c)
sy’n rhwystro ACC yn fwriadol wrth iddo arfer ei bŵer o dan adran 113(3), neu
(d)
sy’n methu â chydymffurfio o fewn cyfnod rhesymol â gofyniad o dan adran 113(5).
(2)
Mae’r person yn agored i gosb o £300.
(3)
Mae’r cyfeiriad at berson sy’n methu â chydymffurfio â hysbysiad gwybodaeth yn cynnwys person sy’n celu, yn difa, neu fel arall yn cael gwared â dogfen (neu sy’n trefnu i’w chelu, i’w difa neu i gael gwared arni) yn groes i adran 114 neu 115.