RHAN 5COSBAU
PENNOD 4COSBAU SY’N YMWNEUD Â CHADW COFNODION A THREFNIADAU TALU’N ÔL
Cosb am fethu â chadw cofnodion mewn cysylltiad â ffurflenni neu hawliadau treth a’u storio’n ddiogel
145Asesu cosbau o dan adran 143
(1)
Pan ddaw person yn agored i gosb o dan adran 143, rhaid i ACC—
(a)
asesu’r gosb, a
(b)
dyroddi hysbysiad i’r person o’r gosb a aseswyd.
(2)
Rhaid gwneud asesiad o gosb o dan adran 143 o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth ACC i gredu yn gyntaf bod y person wedi methu â chydymffurfio ag adran 38 F1, 38A neu 69.