RHAN 5COSBAU

PENNOD 4COSBAU SY’N YMWNEUD Â CHADW COFNODION A THREFNIADAU TALU’N ÔL

Cosb am fethu â chadw cofnodion mewn cysylltiad â ffurflenni neu hawliadau treth a’u storio’n ddiogel

144Esgus rhesymol am fethu â chadw cofnodion a’u storio’n ddiogel

(1)

Os yw person sy’n methu â chydymffurfio ag adran 38 neu 69 yn bodloni ACC neu (drwy apêl) y tribiwnlys bod esgus rhesymol am y methiant, nid oes unrhyw rwymedigaeth i gosb o dan adran 143 mewn perthynas â’r methiant.

(2)

At ddibenion is-adran (1)—

(a)

nid yw prinder arian yn esgus rhesymol oni bai y gellir priodoli hynny i ddigwyddiadau sydd y tu hwnt i reolaeth y person;

(b)

pan fo’r person yn dibynnu ar berson arall i wneud unrhyw beth, nid yw hynny’n esgus rhesymol oni bai bod y person cyntaf wedi cymryd gofal rhesymol i osgoi’r methiant;

(c)

os oedd gan y person esgus rhesymol am y methiant ond bod yr esgus wedi dod i ben, mae’r person i’w drin fel pe bai wedi parhau i fod â’r esgus os caiff y methiant ei gywiro heb oedi afresymol ar ôl i’r esgus ddod i ben.