RHAN 5COSBAU

PENNOD 3COSBAU AM ANGHYWIRDEBAU

Cosbau o dan Bennod 3: cyffredinol

141Asesu cosbau o dan Bennod 3

(1)

Pan ddaw person yn agored i gosb o dan y Bennod hon, rhaid i ACC

(a)

asesu’r gosb,

(b)

dyroddi hysbysiad i’r person o’r gosb a aseswyd, ac

(c)

datgan yn yr hysbysiad ar gyfer pa gyfnod F1, trafodiad neu hawliad am gredyd treth yr aseswyd y gosb.

(2)

Caniateir cyfuno asesiad o gosb o dan y Bennod hon ac asesiad o dreth ddatganoledig.

(3)

Rhaid gwneud asesiad o gosb o dan adran 129 neu 132 cyn diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau—

(a)

â diwedd y cyfnod apelio ar gyfer y penderfyniad sy’n cywiro’r anghywirdeb, neu

(b)

os nad oes asesiad o’r dreth o dan sylw o ganlyniad i’r penderfyniad hwnnw, â’r diwrnod y caiff yr anghywirdeb ei gywiro.

(4)

Rhaid gwneud asesiad o gosb o dan adran 133 cyn diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau—

(a)

â diwedd y cyfnod apelio ar gyfer yr asesiad treth a oedd yn cywiro’r tanddatganiad, neu

(b)

os nad oes asesiad sy’n cywiro’r tanddatganiad, â’r diwrnod y caiff y tanddatganiad ei gywiro.

(5)

Yn is-adrannau (3) a (4), ystyr “cyfnod apelio” F2yw

(a)

os na wneir apêl, y cyfnod y gellid gwneud apêl, a

(b)

os gwneir apêl, y cyfnod sy’n dod i ben pan gaiff ei dyfarnu’n derfynol neu ei thynnu’n ôl.

(6)

Yn ddarostyngedig i is-adrannau (3) a (4), caniateir gwneud asesiad atodol mewn cysylltiad â chosb o dan y Bennod hon os oedd asesiad cynharach yn gweithredu drwy gyfeirio at danddatganiad o’r refeniw posibl a gollir.