RHAN 5COSBAU
PENNOD 3COSBAU AM ANGHYWIRDEBAU
Cosbau o dan Bennod 3: cyffredinol
139Gostwng cosb o dan Bennod 3 am ddatgelu
(1)
Caiff ACC ostwng cosb sy’n daladwy o dan y Bennod hon pan fo person yn gwneud datgeliad cymwys.
(2)
Ystyr “datgeliad cymwys” yw datgelu—
(a)
anghywirdeb sy’n berthnasol i rwymedigaeth person i dreth F1a gesglir gan ACC,
(b)
(c)
methiant i ddatgelu tanasesiad mewn cysylltiad â threth F1a gesglir gan ACC,
F3(d)
anghywirdeb sy’n berthnasol i hawlogaeth person i gredyd treth neu atebolrwydd person i dalu swm mewn cysylltiad â chredyd treth,
(e)
bod gwybodaeth ffug wedi ei darparu, neu wybodaeth wedi ei hatal, sy’n berthnasol i hawlogaeth person i gredyd treth neu atebolrwydd person i dalu swm mewn cysylltiad â chredyd treth, neu
(f)
methiant i ddatgelu tanasesiad mewn cysylltiad ag atebolrwydd person i dalu swm mewn cysylltiad â chredyd treth.
(3)
Mae person yn gwneud datgeliad cymwys drwy—
(a)
dweud wrth ACC amdano,
(b)
rhoi cymorth rhesymol i ACC wrth feintioli—
(i)
yr anghywirdeb,
(ii)
yr anghywirdeb sydd i’w briodoli i ddarparu gwybodaeth ffug neu gelu gwybodaeth, neu
(iii)
y tanasesiad, ac
(c)
caniatáu i ACC weld cofnodion at ddiben sicrhau bod—
(i)
yr anghywirdeb,
(ii)
yr anghywirdeb sydd i’w briodoli i ddarparu gwybodaeth ffug neu atal gwybodaeth, neu
(iii)
y tanasesiad,
yn cael ei gywiro’n llawn.
(4)
Wrth ostwng cosb o dan yr adran hon, caiff ACC ystyried—
(a)
pa un a oedd y datgeliad wedi ei gymell neu’n ddigymell, a
(b)
ansawdd y datgeliad.
(5)
Mae datgelu gwybodaeth berthnasol—
(a)
yn “ddigymell” os caiff ei wneud ar adeg pan nad oes gan y person sy’n datgelu unrhyw reswm i gredu bod ACC wedi darganfod neu ar fin darganfod yr anghywirdeb, bod gwybodaeth ffug wedi ei darparu neu bod gwybodaeth wedi ei hatal, neu’r tanasesiad, a
(b)
fel arall, “wedi ei gymell”.
(6)
Mae “ansawdd”, mewn perthynas â datgelu, yn cynnwys amseriad, natur a graddau.