RHAN 5COSBAU
PENNOD 3COSBAU AM ANGHYWIRDEBAU
Refeniw posibl a gollir
138Refeniw posibl a gollir: treth oediedig
(1)
Pan fo anghywirdeb wedi arwain at ddatgan swm o dreth ddatganoledig yn hwyrach nag y dylid (“y dreth oediedig”), y refeniw posibl a gollir yw—
(a)
5% o’r dreth oediedig am bob blwyddyn o’r oedi;
(b)
canran o’r dreth oediedig, ar gyfer pob cyfnod oedi o lai na blwyddyn, sy’n cyfateb i 5% y flwyddyn.
(2)
Nid yw’r adran hon yn gymwys i achos y mae adran 137 yn gymwys iddo.