138Refeniw posibl a gollir: treth oediedigLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Pan fo anghywirdeb wedi arwain at ddatgan swm o dreth ddatganoledig yn hwyrach nag y dylid (“y dreth oediedig”), y refeniw posibl a gollir yw—
(a)5% o’r dreth oediedig am bob blwyddyn o’r oedi;
(b)canran o’r dreth oediedig, ar gyfer pob cyfnod oedi o lai na blwyddyn, sy’n cyfateb i 5% y flwyddyn.
(2)Nid yw’r adran hon yn gymwys i achos y mae adran 137 yn gymwys iddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 138 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I2A. 138 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 3