RHAN 5COSBAU

PENNOD 3COSBAU AM ANGHYWIRDEBAU

Refeniw posibl a gollir

I1I2136Refeniw posibl a gollir: camgymeriadau lluosog

1

Pan fo person yn agored i gosb o dan adran 129 mewn cysylltiad â mwy nag un anghywirdeb, a bod y cyfrifiad o’r refeniw posibl a gollir o dan adran 135 mewn cysylltiad â phob anghywirdeb yn dibynnu ar y drefn y cânt eu cywiro, dylid cymryd bod anghywirdebau diofal yn cael eu cywiro cyn anghywirdebau bwriadol.

2

Wrth gyfrifo refeniw posibl a gollir pan fo person yn agored i gosb o dan adran 129 mewn cysylltiad ag un neu ragor o danddatganiadau mewn un neu ragor o ddogfennau sy’n ymwneud â chyfnod treth F1, trafodiad neu hawliad am gredyd treth, rhaid rhoi ystyriaeth i unrhyw orddatganiadau mewn unrhyw ddogfen a roddwyd gan y person sy’n ymwneud â’r un cyfnod treth F2, trafodiad neu hawliad am gredyd treth.

3

Yn is-adran (2)—

a

ystyr “tanddatganiad” yw anghywirdeb sy’n bodloni amod 1 yn adran 129, a

b

ystyr “gorddatganiad” yw anghywirdeb nad yw’n bodloni’r amod hwnnw.

4

At ddibenion is-adran (2), mae gorddatganiadau i’w gosod yn erbyn tanddatganiadau yn y drefn a ganlyn—

a

tanddatganiadau nad yw’r person yn agored i gosb mewn cysylltiad â hwy,

b

tanddatganiadau diofal, ac

c

tanddatganiadau bwriadol.

5

Wrth gyfrifo, at ddibenion cosb o dan adran 129, refeniw posibl a gollir mewn cysylltiad â dogfen a roddwyd gan berson neu ar ran person, ni ddylid ystyried y ffaith fod refeniw posibl a gollir gan berson i’w wrthbwyso, neu y caniateir ei wrthbwyso, gan ordaliad posibl gan berson arall (ac eithrio i’r graddau y mae deddfiad yn ei gwneud yn ofynnol bod rhwymedigaeth person i dreth ddatganoledig yn cael ei haddasu drwy gyfeirio at rwymedigaeth person arall i dreth ddatganoledig).