RHAN 5COSBAU

PENNOD 3COSBAU AM ANGHYWIRDEBAU

Refeniw posibl a gollir

136Refeniw posibl a gollir: camgymeriadau lluosog

(1)

Pan fo person yn agored i gosb o dan adran 129 mewn cysylltiad â mwy nag un anghywirdeb, a bod y cyfrifiad o’r refeniw posibl a gollir o dan adran 135 mewn cysylltiad â phob anghywirdeb yn dibynnu ar y drefn y cânt eu cywiro, dylid cymryd bod anghywirdebau diofal yn cael eu cywiro cyn anghywirdebau bwriadol.

(2)

Wrth gyfrifo refeniw posibl a gollir pan fo person yn agored i gosb o dan adran 129 mewn cysylltiad ag un neu ragor o danddatganiadau mewn un neu ragor o ddogfennau sy’n ymwneud â chyfnod treth neu drafodiad, rhaid rhoi ystyriaeth i unrhyw orddatganiadau mewn unrhyw ddogfen a roddwyd gan y person sy’n ymwneud â’r un cyfnod treth neu drafodiad.

(3)

Yn is-adran (2)—

(a)

ystyr “tanddatganiad” yw anghywirdeb sy’n bodloni amod 1 yn adran 129, a

(b)

ystyr “gorddatganiad” yw anghywirdeb nad yw’n bodloni’r amod hwnnw.

(4)

At ddibenion is-adran (2), mae gorddatganiadau i’w gosod yn erbyn tanddatganiadau yn y drefn a ganlyn—

(a)

tanddatganiadau nad yw’r person yn agored i gosb mewn cysylltiad â hwy,

(b)

tanddatganiadau diofal, ac

(c)

tanddatganiadau bwriadol.

(5)

Wrth gyfrifo, at ddibenion cosb o dan adran 129, refeniw posibl a gollir mewn cysylltiad â dogfen a roddwyd gan berson neu ar ran person, ni ddylid ystyried y ffaith fod refeniw posibl a gollir gan berson i’w wrthbwyso, neu y caniateir ei wrthbwyso, gan ordaliad posibl gan berson arall (ac eithrio i’r graddau y mae deddfiad yn ei gwneud yn ofynnol bod rhwymedigaeth person i dreth ddatganoledig yn cael ei haddasu drwy gyfeirio at rwymedigaeth person arall i dreth ddatganoledig).