RHAN 5COSBAU
PENNOD 3COSBAU AM ANGHYWIRDEBAU
Refeniw posibl a gollir
135Refeniw posibl a gollir: y rheol arferol
(1)
Y “refeniw posibl a gollir” mewn cysylltiad ag—
(a)
anghywirdeb mewn dogfen (gan gynnwys anghywirdeb sydd i’w briodoli i ddarparu gwybodaeth ffug neu atal gwybodaeth), neu
(b)
methiant i hysbysu ynghylch tanasesiad,
yw’r swm ychwanegol sy’n daladwy mewn cysylltiad â threth ddatganoledig F1neu gredyd treth o ganlyniad i gywiro’r anghywirdeb neu’r tanasesiad.
(2)
Mae’r cyfeiriad yn is-adran (1) at y swm ychwanegol sy’n daladwy yn cynnwys cyfeiriad at—
(a)
swm sy’n daladwy i ACC wedi iddo gael ei dalu drwy gamgymeriad ar ffurf ad-daliad o dreth ddatganoledig, F2...
(b)
swm a fyddai wedi bod i’w ad-dalu gan ACC pe na byddai’r anghywirdeb neu’r tanasesiad wedi ei gywiro, F3ac
(c)
swm y byddai wedi bod yn ofynnol i ACC ei osod yn erbyn atebolrwydd person i dreth, neu ei dalu i berson, pe na bai’r anghywirdeb neu’r tanasesiad wedi ei gywiro.