RHAN 5COSBAU
PENNOD 3COSBAU AM ANGHYWIRDEBAU
Cosbau am anghywirdebau mewn dogfennau
131Gohirio cosb am anghywirdeb diofal
(1)
Caiff ACC ohirio cosb gyfan neu ran o gosb am anghywirdeb diofal o dan adran 129 drwy ddyroddi hysbysiad i’r person sy’n agored i’r gosb.
(2)
Rhaid i’r hysbysiad bennu—
(a)
pa ran o’r gosb sydd i’w gohirio,
(b)
cyfnod gohirio nad yw’n hwy na 2 flynedd, ac
(c)
amodau gohirio y mae’n rhaid i’r person gydymffurfio â hwy.
(3)
Ni chaiff ACC ohirio cosb gyfan neu ran o gosb oni fyddai cydymffurfio ag amod gohirio yn helpu’r person i osgoi dod yn agored i gosbau pellach o dan adran 129 am anghywirdeb diofal.
(4)
Caiff amod gohirio bennu—
(a)
cam sydd i’w gymryd, a
(b)
cyfnod ar gyfer cymryd y cam hwnnw.
(5)
Pan ddaw’r cyfnod gohirio i ben—
(a)
os yw’r person yn bodloni ACC y cydymffurfiwyd â’r amodau gohirio, caiff y gosb neu’r rhan a ohiriwyd ei chanslo, a
(b)
fel arall, daw’r gosb neu’r rhan a ohiriwyd yn daladwy.
(6)
Os yw’r person, yn ystod cyfnod gohirio cosb gyfan neu ran o gosb sy’n daladwy o dan adran 129, yn dod yn agored i gosb arall o dan yr adran honno, daw’r gosb neu’r rhan a ohiriwyd yn daladwy.