RHAN 2AWDURDOD CYLLID CYMRU

Swyddogaethau

13Awdurdodiad mewnol i gyflawni swyddogaethau

(1)

Caiff ACC awdurdodi’r canlynol i gyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau (i unrhyw raddau)—

(a)

aelod o ACC,

(b)

pwyllgor o ACC neu is-bwyllgor o bwyllgor o’r fath, neu

(c)

prif weithredwr ACC neu unrhyw aelod arall o staff ACC.

(2)

Ond ni chaiff ACC awdurdodi pwyllgor neu is-bwyllgor i gyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau (i unrhyw raddau) oni bai bod o leiaf un o aelodau’r pwyllgor neu’r is-bwyllgor yn aelod anweithredol o ACC.

(3)

Nid yw’r awdurdodiad i gyflawni swyddogaeth o dan yr adran hon yn effeithio ar—

(a)

gallu ACC i arfer y swyddogaeth, na

(b)

cyfrifoldeb ACC dros arfer y swyddogaeth.