RHAN 5COSBAU

PENNOD 3COSBAU AM ANGHYWIRDEBAU

Cosbau am anghywirdebau mewn dogfennau

129Cosb am anghywirdeb mewn dogfen a roddir i ACC

(1)

Mae person yn agored i gosb pan fo—

(a)

y person yn rhoi dogfen i ACC, a

(b)

amodau 1 a 2 wedi eu bodloni.

(2)

Amod 1 yw bod y ddogfen yn cynnwys anghywirdeb sy’n gyfystyr â’r canlynol, neu’n arwain at y canlynol—

(a)

tanddatganiad o rwymedigaeth i dreth ddatganoledig,

(b)

datganiad ffug neu ormodol o golled sy’n ymwneud â threth ddatganoledig, F1...

(c)

hawliad ffug neu ormodol am ad-daliad o dreth ddatganoledig F2, neu

(d)

hawliad ffug neu ormodol am gredyd treth.

(3)

Amod 2 yw bod yr anghywirdeb yn fwriadol neu’n ddiofal ar ran y person.

(4)

Mae anghywirdeb yn ddiofal ar ran person os gellir ei briodoli i fethiant y person i gymryd gofal rhesymol.

(5)

Mae anghywirdeb nad oedd yn fwriadol nac yn ddiofal ar ran person pan roddwyd y ddogfen i’w drin fel un diofal—

(a)

os darganfu’r person yr anghywirdeb yn ddiweddarach, a

(b)

os na chymerodd y person gamau rhesymol i roi gwybod i ACC.

(6)

Pan fo dogfen yn cynnwys mwy nag un anghywirdeb y bodlonir amodau 1 a 2 mewn cysylltiad â hwy, mae’r person yn agored i gosb am bob anghywirdeb o’r fath.