RHAN 5COSBAU
PENNOD 2COSBAU AM FETHU Â DYCHWELYD FFURFLENNI NEU DALU TRETH NEU SYMIAU SY’N DALADWY MEWN CYSYLLTIAD Â CHREDYDAU TRETH
Cosbau o dan Bennod 2: cyffredinol
128Terfyn amser ar gyfer asesu cosbau o dan Bennod 2
(1)
Rhaid asesu cosb o dan y Bennod hon F1... ar neu cyn y diweddaraf o ddyddiad A a (pan fo’n gymwys) dyddiad B.
(2)
Dyddiad A yw diwrnod olaf y cyfnod o 2 flynedd sy’n dechrau—
(a)
yn achos methiant i ddychwelyd ffurflen dreth, â’r dyddiad ffeilio, F2...
(b)
yn achos methiant i dalu treth ddatganoledig, â’r dyddiad cosbi F3, neu
(c)
yn achos methiant i dalu swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth, â’r dyddiad cosbi.
(3)
Dyddiad B yw diwrnod olaf y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau—
(a)
yn achos methiant i ddychwelyd ffurflen dreth—
(i)
â diwedd y cyfnod apelio ar gyfer yr asesiad o swm y dreth ddatganoledig y byddai person wedi bod yn agored i’w dalu pe byddai’r ffurflen dreth wedi ei dychwelyd, neu
(ii)
os nad oes asesiad o’r fath, â’r dyddiad y caiff y rhwymedigaeth honno ei chanfod neu’r dyddiad y canfyddir mai dim yw’r rhwymedigaeth;
(b)
yn achos methiant i dalu treth ddatganoledig—
(i)
â diwedd y cyfnod apelio ar gyfer yr asesiad o swm y dreth ddatganoledig yr asesir y gosb mewn cysylltiad ag ef, neu
(ii)
os nad oes asesiad o’r fath, â’r dyddiad y canfyddir y swm hwnnw o dreth ddatganoledig.
F4(c)
yn achos methiant i dalu swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth, diwedd y cyfnod apelio ar gyfer yr asesiad o’r swm yr asesir y gosb mewn cysylltiad ag ef.
(4)
Yn is-adran (2)(b), mae i “dyddiad cosbi” yr ystyr a roddir gan adran F5122(3).
F6(4A)
Yn is-adran (2)(c), mae i “dyddiad cosbi” yr ystyr a roddir gan adran 123A(3).
(5)
(a)
os na wneir apêl, y cyfnod y gellid gwneud apêl, a
(b)
os gwneir apêl, y cyfnod sy’n dod i ben pan gaiff ei dyfarnu’n derfynol neu ei thynnu’n ôl.