RHAN 5COSBAU
PENNOD 2COSBAU AM FETHU Â DYCHWELYD FFURFLENNI NEU DALU TRETH NEU SYMIAU SY’N DALADWY MEWN CYSYLLTIAD Â CHREDYDAU TRETH
Cosbau o dan Bennod 2: cyffredinol
125Gostyngiad arbennig i’r gosb o dan Bennod 2
(1)
Caiff ACC ostwng cosb o dan y Bennod hon os yw’n credu ei bod yn iawn gwneud hynny oherwydd amgylchiadau arbennig.
(2)
Yn is-adran (1), nid yw “amgylchiadau arbennig” yn cynnwys—
(a)
y gallu i dalu, na
(b)
y ffaith fod y posibilrwydd o golli refeniw gan un person yn cael ei wrthbwyso gan ordaliad posibl gan berson arall.
F1(2A)
Ond gall “amgylchiadau arbennig” gynnwys y ffaith fod ACC wedi cytuno y caiff person dalu swm o dreth ddatganoledig mewn rhandaliadau dros gyfnod cytunedig.
(3)
Yn is-adran (1), mae’r cyfeiriad at ostwng cosb yn cynnwys cyfeiriad at—
(a)
dileu cosb yn llwyr,
(b)
gohirio cosb, ac
(c)
cytuno ar gyfaddawd mewn perthynas ag achos yn ymwneud â chosb.
(4)
Yn yr adran hon mae cyfeiriad at gosb yn cynnwys cyfeiriad at unrhyw log mewn perthynas â chosb.