RHAN 5COSBAU
PENNOD 2COSBAU AM FETHU Â DYCHWELYD FFURFLENNI NEU DALU TRETH NEU SYMIAU SY’N DALADWY MEWN CYSYLLTIAD Â CHREDYDAU TRETH
F1Cosb am fethu â thalu swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth
123A.Cosb am fethu â thalu swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth mewn pryd
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo’n ofynnol i berson dalu swm o ganlyniad i asesiad ACC a wneir o dan adran 55A.
(2)
Mae person yn agored i gosb os yw’n yn methu â thalu’r swm ar y dyddiad cosbi neu cyn hynny.
(3)
Y dyddiad cosbi yw’r dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod erbyn pryd yr oedd yn ofynnol talu’r swm.
(4)
Y gosb yw 5% o’r swm sy’n daladwy o ganlyniad i’r asesiad ACC.