[F1122ACosbau pellach am barhau i fethu â thalu treth ddatganoledigLL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo person yn agored i gosb o dan adran 122 [F2neu 122ZA] mewn cysylltiad â methu â thalu swm o dreth ddatganoledig ar y dyddiad cosbi ar gyfer y swm hwnnw, neu cyn hynny.
(2)Os yw unrhyw swm yn parhau i fod heb ei dalu ar ôl diwedd y cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod sydd 30 o ddiwrnodau cyn y dyddiad cosbi, mae’r person yn agored i gosb bellach.
(3)Y gosb bellach yw 5% o’r swm sy’n parhau i fod heb ei dalu.
(4)Os yw unrhyw swm yn parhau i fod heb ei dalu ar ôl diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod sydd 30 o ddiwrnodau cyn y dyddiad cosbi, mae’r person yn agored i ail gosb bellach.
(5)Yr ail gosb bellach yw 5% o’r swm sy’n parhau i fod heb ei dalu.]
Diwygiadau Testunol
F1Aau. 122, 122A wedi eu hamnewid ar gyfer a. 122 (1.4.2018) gan Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (anaw 1), a. 81(2)(3), Atod. 23 para. 42; O.S. 2018/34, ergl. 3
F2Geiriau yn a. 122A(1) wedi eu mewnosod (1.4.2018) gan Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (anaw 3), a. 97(2), Atod. 4 para. 12; O.S. 2018/35, ergl. 3