RHAN 5COSBAU
PENNOD 2COSBAU AM FETHU Â DYCHWELYD FFURFLENNI NEU DALU TRETH NEU SYMIAU SY’N DALADWY MEWN CYSYLLTIAD Â CHREDYDAU TRETH
Cosb am fethu â dychwelyd ffurflen dreth
121Gostwng cosb am fethu â dychwelyd ffurflen dreth: datgelu
(1)
Caiff ACC ostwng cosb o dan adran 118, F1118A, 119 neu 120 os yw’r person yn datgelu gwybodaeth sydd wedi ei hatal o ganlyniad i fethiant i ddychwelyd ffurflen dreth (“gwybodaeth berthnasol”).
(2)
Mae person yn datgelu gwybodaeth berthnasol drwy—
(a)
dweud wrth ACC amdani,
(b)
rhoi cymorth rhesymol i ACC feintioli unrhyw dreth ddatganoledig nas talwyd oherwydd i’r wybodaeth gael ei hatal, ac
(c)
caniatáu i ACC weld cofnodion at ddiben gwirio faint o dreth ddatganoledig nas talwyd fel hyn.
(3)
Wrth ostwng cosb o dan yr adran hon, caiff ACC ystyried—
(a)
pa un a oedd y datgeliad wedi ei gymell neu’n ddigymell, a
(b)
ansawdd y datgeliad.
(4)
Mae datgelu gwybodaeth berthnasol—
(a)
yn “ddigymell” os gwneir hynny ar adeg pan nad oes gan y person sy’n datgelu unrhyw reswm i gredu bod ACC wedi darganfod yr wybodaeth berthnasol neu ei fod ar fin ei darganfod, a
(b)
fel arall, “wedi ei gymell”.
(5)
Mae “ansawdd”, mewn perthynas â datgelu, yn cynnwys amseriad, natur a graddau.