RHAN 5COSBAU

PENNOD 2COSBAU AM FETHU Â DYCHWELYD FFURFLENNI NEU DALU TRETH NEU SYMIAU SY’N DALADWY MEWN CYSYLLTIAD Â CHREDYDAU TRETH

Cosb am fethu â dychwelyd ffurflen dreth

119Cosb am fethu â dychwelyd ffurflen dreth o fewn 6 mis wedi’r dyddiad ffeilio

(1)

Mae person F1y mae’n ofynnol iddo ddychwelyd ffurflen dreth yn agored i gosb os yw methiant y person i ddychwelyd ffurflen dreth yn parhau ar ôl diwedd y cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad ffeilio.

(2)

Y gosb yw’r mwyaf o’r canlynol—

(a)

5% o swm y dreth ddatganoledig y byddai’r person wedi bod yn agored i’w dalu pe byddai’r ffurflen dreth wedi ei dychwelyd, a

(b)

£300.