RHAN 5COSBAU
PENNOD 2COSBAU AM FETHU Â DYCHWELYD FFURFLENNI NEU DALU TRETH NEU SYMIAU SY’N DALADWY MEWN CYSYLLTIAD Â CHREDYDAU TRETH
Cosb am fethu â dychwelyd ffurflen dreth
F1118ACosbau am fethiannau lluosog i ddychwelyd ffurflenni treth mewn cysylltiad â threth gwarediadau tirlenwi
(1)
Pan ddaw person yn agored i gosb o dan adran 118 mewn cysylltiad â ffurflen dreth y mae’n ofynnol i’r person ei dychwelyd o dan adran 39 o DTGT, mae cyfnod cosbi—
(a)
yn dechrau â’r diwrnod ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth, a
(b)
yn dod i ben 12 mis yn ddiweddarach, oni chaiff ei ymestyn o dan is-adran (2)(b).
(2)
Os yw’n ofynnol i’r person ddychwelyd ffurflen dreth arall o dan adran 39 o DTGT (“ffurflen dreth B”) cyn diwedd y cyfnod cosbi ond bod y person yn methu â gwneud hynny ar ddyddiad ffeilio ffurflen dreth B neu cyn hynny—
(a)
nid yw’r person yn agored i gosb o dan adran 118 mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw ond mae’n agored i gosb o dan yr adran hon yn lle hynny, a
(b)
caiff y cyfnod cosbi ei ymestyn fel ei fod yn dod i ben 12 mis ar ôl dyddiad ffeilio ffurflen dreth B.
(3)
Pennir swm y gosb y mae person yn agored iddo o dan yr adran hon drwy gyfeirio at nifer y ffurflenni treth—
(a)
yr oedd yn ofynnol i’r person eu dychwelyd o dan adran 39 o DTGT yn ystod y cyfnod cosbi, ond
(b)
y mae’r person wedi methu â’u dychwelyd ar ddyddiadau ffeilio’r ffurflenni treth hynny neu cyn hynny.
(4)
Os methiant cyntaf y person yn ystod y cyfnod cosbi yw’r methiant i ddychwelyd ffurflen dreth B ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny, mae P yn agored i gosb o £200 mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw.
(5)
Os ail fethiant y person yn ystod y cyfnod cosbi yw’r methiant i ddychwelyd ffurflen dreth B ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny, mae P yn agored i gosb o £300 mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw.
(6)
Os trydydd methiant neu ragor y person yn ystod y cyfnod cosbi yw’r methiant i ddychwelyd ffurflen dreth B ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny, mae P yn agored i gosb o £400 mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw.
(7)
Caniateir ymestyn cyfnod cosbi fwy nag unwaith o dan is-adran (2)(b).