RHAN 4PWERAU YMCHWILIO ACC
PENNOD 5PWERAU YMCHWILIO PELLACH
113Darpariaeth bellach ynghylch cofnodion
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys i unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon sy’n—
(a)
ei gwneud yn ofynnol i berson gyflwyno dogfen,
(b)
caniatáu i ACC—
(i)
archwilio dogfen,
(ii)
gwneud neu gymryd copïau neu ddyfyniadau o ddogfen, neu
(iii)
mynd â dogfen ymaith,
(c)
gwneud darpariaeth ynghylch cosbau neu droseddau mewn cysylltiad â chyflwyno neu archwilio dogfennau, gan gynnwys mewn cysylltiad â’r methiant i gyflwyno dogfennau neu ganiatáu iddynt gael eu harchwilio, neu
(d)
gwneud unrhyw ddarpariaeth arall mewn cysylltiad â’r gofyniad a grybwyllir ym mharagraff (a) neu’r pwerau a grybwyllir ym mharagraff (b).
(2)
Mae darpariaeth y mae’r adran hon yn gymwys iddi yn cael effaith fel pe bai—
(a)
unrhyw gyfeiriad yn y ddarpariaeth at ddogfen yn gyfeiriad at unrhyw beth y mae gwybodaeth o unrhyw ddisgrifiad wedi ei gofnodi ynddo, a
(b)
unrhyw gyfeiriad yn y ddarpariaeth at gopi o ddogfen yn gyfeiriad at unrhyw beth y mae gwybodaeth a gofnodwyd yn y ddogfen wedi ei gopïo arno, ym mha bynnag fodd a boed yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol.
(3)
Caiff ACC, ar unrhyw adeg resymol, gael mynediad i unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â dogfen berthnasol, a’u harchwilio a gwirio eu gweithrediad.
(4)
Yn is-adran (3), ystyr “dogfen berthnasol” yw dogfen—
(a)
y bu’n ofynnol neu y gall fod yn ofynnol i berson ei chyflwyno gan neu o dan ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, neu
(b)
y caiff ACC—
(i)
ei harchwilio,
(ii)
gwneud neu gymryd copïau neu ddyfyniadau ohoni, neu
(iii)
mynd â hi ymaith.
(5)
Caiff ACC wneud unrhyw gymorth sy’n rhesymol ofynnol ganddo at ddibenion is-adran (3) yn ofynnol gan—
(a)
y person sy’n defnyddio’r cyfrifiadur neu sydd wedi defnyddio’r cyfrifiadur, neu’r person y’i defnyddir ar ei ran neu y’i defnyddiwyd ar ei ran, neu
(b)
unrhyw berson sy’n gyfrifol am y cyfrifiadur, y cyfarpar neu’r deunydd, neu sydd fel arall yn ymwneud â’u gweithredu.
(6)
Os nad yw person sy’n arfer y pŵer o dan is-adran (3) yn gallu cyflwyno tystiolaeth o awdurdod i wneud hynny pan ofynnir iddo ddarparu tystiolaeth o’r fath gan—
(a)
y person sy’n defnyddio’r cyfrifiadur neu sydd wedi defnyddio’r cyfrifiadur, neu’r person y’i defnyddir ar ei ran neu y’i defnyddiwyd ar ei ran, neu
(b)
unrhyw berson sy’n gyfrifol am y cyfrifiadur, y cyfarpar neu’r deunydd, neu sydd fel arall yn ymwneud â’u gweithredu,
rhaid i’r person sy’n arfer y pŵer roi’r gorau i wneud hynny ac ni chaiff barhau hyd oni chyflwynir tystiolaeth o’r fath.