RHAN 4PWERAU YMCHWILIO ACC

PENNOD 4ARCHWILIO MANGREOEDD AC EIDDO ARALL

F1111Dehongli Pennod 4

F2(1)

Yn y Bennod hon—

ystyr “asedau busnes” (“business assets”) yw asedau y mae gan ACC reswm i gredu eu bod yn eiddo, ar les neu’n cael eu defnyddio gan unrhyw berson mewn cysylltiad â rhedeg busnes, ond nid yw’n cynnwys dogfennau;

ystyr “dogfennau busnes” (“business documents”) yw dogfennau (neu gopïau o ddogfennau) sy’n ymwneud â rhedeg busnes gan unrhyw berson;

mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw adeilad neu strwythur, unrhyw dir ac unrhyw ddull trafnidiaeth;

ystyr “mangre busnes” (“business premises”), mewn cysylltiad â pherson, yw mangre (neu unrhyw ran o fangre) y mae gan ACC reswm i gredu ei bod yn cael ei defnyddio mewn cysylltiad â rhedeg busnes gan y person neu ar ran y person.

F3(2)

At ddibenion y diffiniad o “mangre” yn is-adran (1) fel y mae’n gymwys mewn perthynas â threth gwarediadau tirlenwi, mae “tir” yn cynnwys deunydd (o fewn ystyr DTGT) y mae gan ACC sail dros gredu ei fod wedi ei ddodi ar wyneb y tir neu ar strwythur sydd wedi ei osod yn y tir, neu o dan wyneb y tir.