Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

[F1111Dehongli Pennod 4LL+C

This section has no associated Explanatory Notes

[F2(1)] Yn y Bennod hon—

  • ystyr “asedau busnes” (“business assets”) yw asedau y mae gan ACC reswm i gredu eu bod yn eiddo, ar les neu’n cael eu defnyddio gan unrhyw berson mewn cysylltiad â rhedeg busnes, ond nid yw’n cynnwys dogfennau;

  • ystyr “dogfennau busnes” (“business documents”) yw dogfennau (neu gopïau o ddogfennau) sy’n ymwneud â rhedeg busnes gan unrhyw berson;

  • mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw adeilad neu strwythur, unrhyw dir ac unrhyw ddull trafnidiaeth;

  • ystyr “mangre busnes” (“business premises”), mewn cysylltiad â pherson, yw mangre (neu unrhyw ran o fangre) y mae gan ACC reswm i gredu ei bod yn cael ei defnyddio mewn cysylltiad â rhedeg busnes gan y person neu ar ran y person.]

[F3(2)At ddibenion y diffiniad o “mangre” yn is-adran (1) fel y mae’n gymwys mewn perthynas â threth gwarediadau tirlenwi, mae “tir” yn cynnwys deunydd (o fewn ystyr DTGT) y mae gan ACC sail dros gredu ei fod wedi ei ddodi ar wyneb y tir neu ar strwythur sydd wedi ei osod yn y tir, neu o dan wyneb y tir.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 111 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I2A. 111 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)