RHAN 2AWDURDOD CYLLID CYMRU
Gweithdrefn a dilysrwydd
11Dilysrwydd trafodion a gweithredoedd
Nid yw’r materion a ganlyn yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw un neu ragor o drafodion neu weithredoedd ACC (nac unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor)—
(a)
unrhyw swydd wag ymhlith ei aelodaeth,
(b)
unrhyw ddiffyg o ran penodiad aelod, neu
(c)
unrhyw aelod anweithredol yn dod yn anghymwys ar gyfer ei benodi yn rhinwedd adran 4.