Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

[F1108Cymeradwyaeth y tribiwnlys i archwilio mangreLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff ACC ofyn i’r tribiwnlys gymeradwyo—

(a)archwiliad o dan adran 103 [F2, 103A, 103B] neu 106, neu

(b)arfer pwerau o dan adran 104 neu 105 mewn perthynas ag archwiliad o dan adran 103 [F3, 103A neu 103B] y mae meddiannydd y fangre wedi cytuno iddo.

(2)Mae cymeradwyaeth y tribiwnlys i archwiliad o dan adran 103 [F4, 103A neu 103B] yn cynnwys cymeradwyo arfer y pwerau o dan adran 104 neu 105 yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a osodir gan y tribiwnlys wrth gymeradwyo’r archwiliad.

(3)Caniateir gwneud cais am gymeradwyaeth o dan is-adran (1) heb anfon hysbysiad am y cais at—

(a)y person y mae ei sefyllfa dreth yn destun yr archwiliad arfaethedig, neu

(b)meddiannydd y fangre.

(4)Ni chaiff y tribiwnlys gymeradwyo archwiliad o dan adran [F5103, 103A neu 103B—

(a) onid yw’n fodlon bod y gofyniad cymwys wedi ei fodloni, a

(b)os gwnaed y cais am gymeradwyaeth heb roi hysbysiad, oni fo’n fodlon y gallai anfon hysbysiad am y cais fod wedi niweidio’r gwaith o asesu neu gasglu trethi datganoledig.

[F6(4A)Y gofyniad cymwys yw—

(a)yn achos archwiliad o fangre busnes person o dan adran 103, bod gan ACC sail dros gredu ei bod yn ofynnol archwilio’r fangre at ddiben gwirio sefyllfa dreth y person;

(b)yn achos archwiliad o fangre busnes person o dan adran 103A, bod gan ACC sail dros gredu bod yr amodau a nodir yn is-adrannau (2) a (3) o’r adran honno wedi eu bodloni;

(c)yn achos archwiliad o fangre o dan adran 103B, bod gan ACC sail dros gredu’r materion a nodir yn is-adran (1) o’r adran honno.]

(5)Ni chaiff y tribiwnlys gymeradwyo archwiliad o dan adran 106 oni fo’n fodlon bod angen yr archwiliad at ddiben gwirio sefyllfa dreth unrhyw berson ac—

(a)os gwnaed y cais am gymeradwyaeth heb roi hysbysiad, ei fod yn fodlon y gallai anfon hysbysiad am y cais fod wedi niweidio’r gwaith o asesu neu gasglu trethi datganoledig, neu

(b)mewn unrhyw achos arall—

(i)y rhoddwyd cyfle rhesymol i’r person y mae ei sefyllfa dreth yn destun yr archwiliad arfaethedig wneud sylwadau i ACC ynghylch yr archwiliad,

(ii)y rhoddwyd cyfle rhesymol i feddiannydd y fangre wneud sylwadau o’r fath, a

(iii)y darparwyd crynodeb i’r tribiwnlys o unrhyw sylwadau a wnaed.

(6)Nid yw is-adran (5)(b)(ii) yn gymwys os yw’r tribiwnlys yn fodlon na ellir dweud pwy yw meddiannydd y fangre.

(7)Pan fo’r tribiwnlys wedi cymeradwyo archwiliad o dan is-adran (1)(a) neu wedi cymeradwyo arfer pŵer o dan is-adran (1)(b) rhaid i ACC gynnal yr archwiliad neu arfer y pŵer—

(a)yn ddim hwyrach na 3 mis ar ôl y diwrnod y rhoddodd y tribiwnlys ei gymeradwyaeth, neu

(b)o fewn unrhyw gyfnod byrrach a bennir gan y tribiwnlys wrth roi’r gymeradwyaeth.]]