RHAN 4PWERAU YMCHWILIO ACC
PENNOD 4ARCHWILIO MANGREOEDD AC EIDDO ARALL
F1108Cymeradwyaeth y tribiwnlys i archwilio mangre
(1)
Caiff ACC ofyn i’r tribiwnlys gymeradwyo—
(a)
archwiliad o dan adran 103 F2, 103A, 103B neu 106, neu
(b)
arfer pwerau o dan adran 104 neu 105 mewn perthynas ag archwiliad o dan adran 103 F3, 103A neu 103B y mae meddiannydd y fangre wedi cytuno iddo.
(2)
Mae cymeradwyaeth y tribiwnlys i archwiliad o dan adran 103 F4, 103A neu 103B yn cynnwys cymeradwyo arfer y pwerau o dan adran 104 neu 105 yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a osodir gan y tribiwnlys wrth gymeradwyo’r archwiliad.
(3)
Caniateir gwneud cais am gymeradwyaeth o dan is-adran (1) heb anfon hysbysiad am y cais at—
(a)
y person y mae ei sefyllfa dreth yn destun yr archwiliad arfaethedig, neu
(b)
meddiannydd y fangre.
(4)
Ni chaiff y tribiwnlys gymeradwyo archwiliad o dan adran F5103, 103A neu 103B—
(a)
onid yw’n fodlon bod y gofyniad cymwys wedi ei fodloni, a
(b)
os gwnaed y cais am gymeradwyaeth heb roi hysbysiad, oni fo’n fodlon y gallai anfon hysbysiad am y cais fod wedi niweidio’r gwaith o asesu neu gasglu trethi datganoledig.
F6(4A)
Y gofyniad cymwys yw—
(a)
yn achos archwiliad o fangre busnes person o dan adran 103, bod gan ACC sail dros gredu ei bod yn ofynnol archwilio’r fangre at ddiben gwirio sefyllfa dreth y person;
(b)
yn achos archwiliad o fangre busnes person o dan adran 103A, bod gan ACC sail dros gredu bod yr amodau a nodir yn is-adrannau (2) a (3) o’r adran honno wedi eu bodloni;
(c)
yn achos archwiliad o fangre o dan adran 103B, bod gan ACC sail dros gredu’r materion a nodir yn is-adran (1) o’r adran honno.
(5)
Ni chaiff y tribiwnlys gymeradwyo archwiliad o dan adran 106 oni fo’n fodlon bod angen yr archwiliad at ddiben gwirio sefyllfa dreth unrhyw berson ac—
(a)
os gwnaed y cais am gymeradwyaeth heb roi hysbysiad, ei fod yn fodlon y gallai anfon hysbysiad am y cais fod wedi niweidio’r gwaith o asesu neu gasglu trethi datganoledig, neu
(b)
mewn unrhyw achos arall—
(i)
y rhoddwyd cyfle rhesymol i’r person y mae ei sefyllfa dreth yn destun yr archwiliad arfaethedig wneud sylwadau i ACC ynghylch yr archwiliad,
(ii)
y rhoddwyd cyfle rhesymol i feddiannydd y fangre wneud sylwadau o’r fath, a
(iii)
y darparwyd crynodeb i’r tribiwnlys o unrhyw sylwadau a wnaed.
(6)
Nid yw is-adran (5)(b)(ii) yn gymwys os yw’r tribiwnlys yn fodlon na ellir dweud pwy yw meddiannydd y fangre.
(7)
Pan fo’r tribiwnlys wedi cymeradwyo archwiliad o dan is-adran (1)(a) neu wedi cymeradwyo arfer pŵer o dan is-adran (1)(b) rhaid i ACC gynnal yr archwiliad neu arfer y pŵer—
(a)
yn ddim hwyrach na 3 mis ar ôl y diwrnod y rhoddodd y tribiwnlys ei gymeradwyaeth, neu
(b)
o fewn unrhyw gyfnod byrrach a bennir gan y tribiwnlys wrth roi’r gymeradwyaeth.