RHAN 4PWERAU YMCHWILIO ACC
PENNOD 4ARCHWILIO MANGREOEDD AC EIDDO ARALL
F1106Pŵer i archwilio mangre neu eiddo er mwyn prisio etc.
(1)
Caiff ACC fynd i fangre ac archwilio’r fangre ac unrhyw eiddo yn y fangre at ddiben prisio, mesur neu bennu cymeriad y fangre neu’r eiddo—
(a)
os oes angen prisio, mesur neu bennu cymeriad at ddibenion gwirio sefyllfa dreth unrhyw berson, a
(b)
os yw naill ai amod 1 neu amod 2 wedi ei fodloni.
(2)
Amod 1 yw—
(a)
bod yr archwiliad yn cael ei gynnal ar adeg a gytunwyd gan berson perthnasol, a
(b)
bod hysbysiad sy’n nodi’r amser a gytunwyd ar gyfer cynnal yr archwiliad wedi ei ddyroddi i’r person perthnasol.
(3)
Amod 2 yw—
(a)
bod y tribiwnlys wedi cymeradwyo’r archwiliad, a
(b)
bod hysbysiad sy’n nodi’r amser y cynhelir yr archwiliad wedi ei ddyroddi i berson perthnasol a bennir gan y tribiwnlys o leiaf 7 niwrnod cyn yr amser hwnnw.
(4)
Yn yr adran hon, ystyr “person perthnasol” yw—
(a)
meddiannydd y fangre, neu
(b)
os na ellir dweud pwy yw’r meddiannydd neu os yw’r fangre yn wag, person sy’n rheoli’r fangre.
(5)
Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (2)(b) neu (3)(b) ddatgan canlyniadau posibl rhwystro person sy’n arfer swyddogaethau ACC.
(6)
Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (3)(b) hefyd ddatgan bod y tribiwnlys wedi cymeradwyo’r archwiliad.
(7)
Os yw ACC o’r farn bod angen hynny i gynorthwyo â’r archwiliad, caiff ACC gael person a awdurdodwyd gan ACC yno gydag ef.