xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Caiff ACC fynd i fangre ac archwilio’r fangre ac unrhyw eiddo yn y fangre at ddiben prisio, mesur neu bennu cymeriad y fangre neu’r eiddo—
(a)os oes angen prisio, mesur neu bennu cymeriad at ddibenion gwirio sefyllfa dreth unrhyw berson, a
(b)os yw naill ai amod 1 neu amod 2 wedi ei fodloni.
(2)Amod 1 yw—
(a)bod yr archwiliad yn cael ei gynnal ar adeg a gytunwyd gan berson perthnasol, a
(b)bod hysbysiad sy’n nodi’r amser a gytunwyd ar gyfer cynnal yr archwiliad wedi ei ddyroddi i’r person perthnasol.
(3)Amod 2 yw—
(a)bod y tribiwnlys wedi cymeradwyo’r archwiliad, a
(b)bod hysbysiad sy’n nodi’r amser y cynhelir yr archwiliad wedi ei ddyroddi i berson perthnasol a bennir gan y tribiwnlys o leiaf 7 niwrnod cyn yr amser hwnnw.
(4)Yn yr adran hon, ystyr “person perthnasol” yw—
(a)meddiannydd y fangre, neu
(b)os na ellir dweud pwy yw’r meddiannydd neu os yw’r fangre yn wag, person sy’n rheoli’r fangre.
(5)Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (2)(b) neu (3)(b) ddatgan canlyniadau posibl rhwystro person sy’n arfer swyddogaethau ACC.
(6)Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (3)(b) hefyd ddatgan bod y tribiwnlys wedi cymeradwyo’r archwiliad.
(7)Os yw ACC o’r farn bod angen hynny i gynorthwyo â’r archwiliad, caiff ACC gael person a awdurdodwyd gan ACC yno gydag ef.]
Diwygiadau Testunol
F1Aau. 103A, 103B wedi eu mewnosod (25.1.2018) gan Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (anaw 3), aau. 59(1), 97(2); O.S. 2018/35, ergl. 2(s)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 106 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)
I2A. 106 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)